Croesawu ymagwedd newydd at ieithoedd
25 Ionawr 2019
Croesawu ymagwedd newydd at ieithoedd
Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb yn gadarnhaol i gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch lle ieithoedd yn y cwricwlwm newydd.
Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, “Trwy osod y Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr â Ieithoedd Rhyngwladol yn y cwricwlwm, rydym yn agor y drws i ymagwedd newydd at ddulliau dysgu ieithoedd. Yn ogystal, gallai hyn roi pwyslais newydd ar werthfawrogiad o amrywiaeth diwylliannol a ieithyddol yn fwy cyffredinol.
“Mae wedi bod yn amlwg ers tro byd bod angen dechrau dysgu ieithoedd i blant yn gynharach, felly mae croeso i’r cynnig hwnnw ar yr amod y daw cyfleoedd hyfforddiant digonol i staff.
“Yn yr un modd, mae adroddiadau fel un yr Athro Sioned Davies wedi’i wneud yn glir bod angen gwella dulliau dysgu’r Gymraeg yn enwedig mewn ysgolion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf. Ac mi fydd galw am ragor o hyfforddiant, o wahanol fathau, ar fyrder i wireddu hynny hefyd.
“Bydd y cwricwlwm newydd yn pwysleisio sgiliau cyfathrebu ac yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau hynny ar draws y cwricwlwm gyfan – tu hwnt i wersi iaith – a thu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mi fydd yn cydnabod bod pawb ar ‘gontinwwm’ o ran sgiliau iaith ym mha bynnag iaith sydd dan sylw – boed yn Saesneg, Cymraeg neu iaith ryngwladol arall.
“Fel undeb, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am wybodaeth fanwl ynghylch y trefniadau asesu, ac yn bennaf ynghylch y cyfleoedd am hyfforddiant, dros y misoedd i ddod.”
DIWEDD
Nodiadau
- Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
- Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.