Cyfarfod 'Teachers Working Longer Review'
10 Ionawr 2019
Cyfarfod 'Teachers Working Longer Review'
Ers 2014 mae UCAC wedi bod yn cyfarfod yn gyson gyda Llywodraeth San Steffan i drafod oblygiadau'r newid mewn pensiynau athrawon ac effaith hynny ar yr angen i athrawon weithio'n hirach ac yn hynach.
Roedd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Dilwyn Roberts-Young, yn bresennol mewn cyfarfodydd ar Ddydd Mercher, Ionawr 9fed ble roedd trafodaeth am y modd y gall argymhellion adroddiad y Working Longer Review gefnogi athrawon yn ystod eu gyrfa.
Mae'r Undeb wedi eisoes wedi adrodd ar yr adroddiad a'r her nawr yw creu diwylliant yn yr ysgolion, yr awdurdodau, yn rhanbarthol a chenedlaethol sy'n gefnogol i'n hathrawon.
Bwriad UCAC yw galw am gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn bresennol yn y cyfarfodydd, i ystyried yr argymhellion yng nghyd-destun datblygiadau yng Nghymru.
Ar y prynhawn roedd cyfarfod pellach gyda gweision sifil, cynrychiolwyr y cyflogwyr a chynrychiolwyr yr undebau i drafod llywodraethiant y pensiwn. UCAC yn unig oedd yn sicrhau llais i athrawon Cymru yn y cyfarfod.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950