Croeso gofalus i ddatganiad y Gweinidog Addysg ar ganlyniadau Safon Uwch
12 Awst 2020
Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb yn gadarnhaol, ar y cyfan, i ‘warant’ y Gweinidog Addysg heddiw na fydd unrhyw ymgeisydd yn derbyn gradd Safon Uwch sy’n is na’u gradd Uwch Gyfrannol ac y bydd adolygiad o’r hawl i apêl.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Bydd ein haelodau’n croesawu unrhyw gam fydd yn sicrhau bod eu myfyrwyr yn derbyn eu haeddiant ac na fyddent yn cymharu’n anffafriol a’u cyfoedion mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.
“Fodd bynnag, mae’r ffaith bod angen y newidiadau hyn yn fater o bryder sylweddol iawn. Mae’r holl newidiadau, ar y funud olaf, yn debygol o achosi straen, poen meddwl a dryswch.
“Yn ogystal, mae pryder yn parhau am y gweithdrefnau rhoddwyd yn eu lle yn y lle cyntaf, yn enwedig y modelu a fu ar y cynnydd rhwng UG a Safon Uwch.
“Yn amlwg, gall perfformiad amrywio’n fawr rhwng UG ac U2. Fodd bynnag, mae peth tystiolaeth i ddangos, er enghraifft, fod y rhai mwyaf galluog yn cynnal eu graddau o UG i U2, ac yn wir yn gallu rhagori arnynt. Gobeithiwn yn fawr y bydd y newid yn gwneud yn iawn am hynny.
“Gobeithiwn, hefyd, y bydd y canllawiau apelio newydd yn fodd o wneud yn iawn am unrhyw anghysondebau amlwg ar lefel unigol, lefel pwnc neu ar lefel ysgol. Pwyswn am i’r canllawiau diwygiedig gael eu cyhoeddi cyn gynted â phosib i gynnig eglurder i bawb.”