CYMORTH I ATHRAWON - GWASANAETH EDUCATION SUPPORT

Mehefin 2024 

Peidiwch ag anghofio - mae cymorth ar gael gan Education Support! Cofrestrwch ar gyfer eu gwasanaethau llesiant sydd wedi'u cynllunio ar gyfer staff ysgol yng Nghymru yn union fel chi.  Mae'r gwasanaethau hyn wedi eu hariannu, felly nid oes angen i chi boeni am y gost. 

 Dyma rai o'r gwasanaethau sydd ar gael: 

Rhowch iechyd meddwl a llesiant staff wrth galon diwylliant eich ysgol! Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori ar Lesiant yng Nghymru a darganfod sut y gallwch gael gafael ar gyngor arbenigol gan gynghorydd llesiant ysgolion rhanbarthol.


•    Goruchwyliaeth broffesiynol: ar gyfer arweinwyr ysgol – cofrestrwch, heb unrhyw gost 

Canolbwyntiwch ar eich rôl fel arweinydd ym maes addysg. Dewch ag unrhyw bryderon sydd gennych am ddiwylliant yr ysgol, dynameg tîm, aelodau staff, myfyrwyr neu chi eich hun, a'u rhannu gyda goruchwyliwr cymwys a phrofiadol. Cofrestrwch nawr heb unrhyw gost i chi.

Cadwch lygad ar wefan Education Support am weithdai a dosbarthiadau meistr sy'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant staff. Gallwch gadw lle yn rhad ac am ddim!


Gallwch hefyd edrych ar y pecyn cymorth diweddaraf o adnoddau - mae'r pecyn am ddim i staff ysgolion yng Nghymru - cliciwch ar y ddolen i gael mynediad at y pecyn. 

A chofiwch, mae llinell gymorth gyfrinachol am ddim ar gael gan Education Support.  Mae'r llinell hon yn cael ei staffio gan gwnselwyr cymwys 24/7, 7 niwrnod yr wythnos.  Dyma'r rhif ffôn -  08000 562 561.

DANGOS Y CERDYN COCH I HILIAETH - ADNODDAU

Mai 2024 

Wrth i'r Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd agosáu, beth am fanteisio ar y cyfle euraid hwn i ddysgu am hiliaeth a gwrth-hiliaeth.  Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi paratoi pecyn o wersi a gweithgareddau sy'n barod i'w defnyddio, er mwyn dysgu am hiliaeth a gwrth-hiliaeth mewn modd cyffrous ac arloesol.  Os hoffech dderbyn pecyn adnoddau AM DDIM, cwblhewch y ffurflen gofrestru  - https://bit.ly/3QzfY48   

I lenwi'r ffurflen yn y Gymraeg, dewiswch 'Cymraeg' yn y ddewislen sydd yng nghornel dde y ffurflen.  

Mae'r adnoddau, sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru, yn cynnwys tasgau amrywiol sy'n addas ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd.  

 

LLYTHYR UCAC AT YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS ADDYSG

Ebrill 2024 

Yn wyneb y digwyddiad yn Rhydaman yr wythnos ddiwethaf,  mae Llywydd Cenedlaethol UCAC wedi ysgrifennu llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r llythyr yn canmol ymateb staff yr ysgol am eu proffesiynoldeb a'u dewrder wrth  ymateb i'r digwyddiad.  Mae e hefyd yn mynegi pryder fod trais ar gynnydd yn ein hysgolion a bod dirywiad amlwg o ran disgyblaeth mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Yn y llythyr mae UCAC yn galw am sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu galw ynghyd, er mwyn gallu ymateb i'r heriau presennol.   

Cliciwch yma i ddarllen y llythyr yn llawn.  

 

 

RHAI CYRSIAU DIDDOROL A DEFNYDDIOL (EDUCATION SUPPORT) 

 

EBRILL 2024 

Mae hi'n anodd credu bod tymor olaf y flwyddyn ysgol newydd ddechrau.   Er bod y tymhorau'n newid, mae rhai pethau yn aros yr un fath ac yn sicr mae'r angen i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles a gofalu am iechyd meddwl a lles ein cydweithwyr yn hynod o bwysig.  Mae gan Education Support nifer o gyrsiau a dosbarthiadau meistr yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.  Byddai'n syniad bwrw golwg ar y rhestr isod.   Cliciwch ar y dolenni, er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cyrsiau.  (Dylid nodi mai cyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg yw'r cyrsiau hyn).  

GWYBODAETH SYDD WEDI DOD I LAW ODDI WRTH EDUCATION SUPPORT 

Mae ein dosbarthiadau meistr nesaf a ariennir bellach ar gael i'w harchebu ar ein gwefan – ond cliciwch ar y dolenni hyn nawr i gofrestru gan fod y nifer yn gyfyngedig.

 

STRWYTHUR Y FLWYDDYN YSGOL

Chwefror 2024 

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynlluniau i newid strwythur y flwyddyn ysgol. Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig ac mae iddo oblygiadau pellgyrhaeddol i bob un sydd yn ymwneud â byd addysg.  

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn beth yw eich barn am dri opsiwn: 

Opsiwn 1.
Cadw'r gwyliau ysgol fel y maent - wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau Pasg, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin a chwe wythnos o wyliau haf. 

Opsiwn 2.
Newid y calendr ysgol o fis Medi 2025 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pump wythnos o wyliau haf (gyda'r gwyliau'n dechrau ar 30 Gorffennaf 2026)

Yn yr opsiwn yma, byddai 1 wythnos o wyliau’r haf yn cael ei symud i dymor yr hydref a byddai gwyliau’r haf wythnos yn fyrrach. Byddai gwyliau’r gwanwyn yn cael eu symud i ffwrdd oddi wrth y Pasg. Byddai'r ddau ddiwrnod sy'n wyliau cyhoeddus adeg y Pasg (dydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg)  yn dal i fod yn ‘ddiwrnodau i ffwrdd’ o’r ysgol.

Opsiwn 3.
Calendr ysgol newydd ar gyfer y dyfodol
- Byddai'r newidiadau yn cael eu gwneud mewn dau gam

Cam 1 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pump wythnos o wyliau haf. 

(Mae opsiwn 3 cam 1 yr un fath ag Opsiwn 2) 

Cam 2 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pedair wythnos o wyliau haf. 

Yn ogystal â'r newidiadau uchod i'r gwyliau, mae'r Llywodraeth yn ystyried cael diwrnodau canlyniadau Safon Uwch a TGAU yn yr un wythnos yn ystod gwyliau'r haf ac yn holi eich barn am y cynnig hwnnw hefyd.  

Dyma'r patrwm a gynigir ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-2026

CYFNOD

DECHRAU           

DIWEDD

Tymor yr hydref 2025

Llun, 1 Medi

Gwener, 19 Rhagfyr  (hanner tymor cyntaf yn 7 wythnos; ail hanner tymor yn 7 wythnos)

Hanner tymor yr hydref 2025

Llun, 20 Hydref

Gwener, 31 Hydref (bythefnos o wyliau hanner tymor)

Tymor y gwanwyn 2026

Llun, 5 Ionawr

Gwener, 3 Ebrill (hanner tymor cyntaf yn 6 wythnos; ail hanner tymor yn  6 wythnos)

Hanner tymor y gwanwyn 2026

Llun, 16 Chwefror

Gwener, 20 Chwefror (wythnos o wyliau hanner tymor)

Tymor yr haf  2026

Llun, 20 Ebrill

Mercher, 29 Gorffennaf (hanner tymor cyntaf yn 5 wythnos; ail hanner tymor yn 8 wythnos a 3 diwrnod)

Hanner tymor yr haf 2026

Llun 25 Mai

Gwener 29 Mai (wythnos o wyliau hanner tymor)

Beth yw eich barn chi am y mater?  Cofiwch fanteisio ar y cyfle i fynegi eich barn.  

Am wybodaeth bellach ac am wybod sut i ymateb, ewch i:

https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol