NEWID Y CALENDR GWYLIAU YSGOL

21 Tachwedd 2023 

Mae UCAC yn hynod o siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol heb ymgysylltu’n llawn o flaen llaw â’r undebau athrawon.  Teimla’r Undeb na roddwyd ystyriaeth ofalus i bwyntiau ymarferol nac i faterion sy’n ymwneud ag addysgeg, wrth i’r Llywodraeth lunio ei chynlluniau ar gyfer blwyddyn ysgol ddiwygiedig.  Mae newidiadau sylweddol i galendr ysgol yn gofyn am waith cynllunio manwl, gan roi sylw i oblygiadau’r newidiadau hynny ar bob carfan. 

Wrth nodi y bwriad i ymestyn tymor yr haf, golyga hyn y bydd disgyblion yn yr ysgol yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru. Dyma binacl y flwyddyn i’r diwydiant amaethyddol, diwydiant sydd mor bwysig i Gymru. Bydd dileu wythnos o wyliau haf yn golygu y bydd gwyliau arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion uwchradd yn cael eu tocio fwyfwy, gan fod derbyn canlyniadau arholiadau allanol ym mis Awst eisoes yn golygu eu bod yn colli wythnosau o’u gwyliau haf.

Wrth docio wythnos o dymor yr hydref, golyga hyn fod gan ysgolion wythnos yn llai i baratoi disgyblion ar gyfer arholiadau allanol a hynny yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, yr union adeg y cyflwynir y cyrsiau TGAU newydd am y tro cyntaf. Mae byd addysg wedi wynebu heriau a newidiadau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan orfod ymdopi gyda newidiadau chwyldroadol megis y  cwricwlwm newydd, deddfwriaeth ADY newydd, yn ogystal â’r holl heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.

Cred yr Undeb mai’r ffordd orau o gefnogi ‘llesiant dysgwyr a staff’ yw drwy sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd i ysgolion ac nid drwy gyflwyno mwy eto o newidiadau.

Rydym eisoes yn wynebu problemau recriwtio a chadw staff ac nid ydym am weld hyn yn gwaethygu fwyfwy, gyda’r holl newidiadau. 

COFIWCH

Mae modd mynegi eich barn am y newidiadau posibl drwy anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad.  Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 12 Chwefror 2024.

Ewch i https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol er mwyn darllen y ddogfen ymgynghori a dysgu sut i ymateb.

CODIAD CYFLOG 5% I ATHRAWON YSGOL 2023-24

27 Medi 2023 

 

Cyn bod modd i athrawon  dderbyn y 5% o godiad cyflog eleni, yn unol â’r drefn arferol, mae’n rhaid i’r Llywodraeth gychwyn proses gyfreithiol cyn y gallant gyfarwyddo’r awdurdodau i dalu. Mae’n broses sydd yn cymryd rhyw wythnos.  Mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, nododd y Llywodraeth y byddai’r  broses yn cychwyn cyn diwedd yr wythnos. Mawr obeithiwn felly y bydd yr awdurdodau yn derbyn y cyfarwyddyd erbyn diwedd yr wythnos hon. Yn ddibynnol ar weithdrefnau mewnol yr awdurdodau, dylai athrawon ysgol dderbyn y codiad cyflog un ai mis nesaf neu ym mis Tachwedd, hynny gydag ôl-daliad o fis Medi, wrth gwrs.

 

Cofiwch gysylltu ag UCAC os oes unrhyw ymholiad pellach o ran y codiad cyflog.

 

CYN-DREFNYDD CYFFREDINOL UCAC

Medi 2023 

Trist oedd clywed am farwolaeth un o gyn-weithwyr UCAC, sef Gareth Miles a fu yn drefnydd cyffredinol yr undeb yn y saithdegau.   Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol presennol yr undeb: 

"Roedd Gareth Miles yn ymgyrchydd gwleidyddol ac ieithyddol, yn awdur ymysg y disglair ac yn sylwebydd praff ar y byd a'i bethau. Creodd argraff mewn sawl maes ac i ni yma yn Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru [UCAC] roedd yn drefnydd cenedlaethol eithriadol o effeithiol a'i adnabyddiaeth o Gymru gyfan yn allweddol wrth i'r Undeb gynyddu yn ei dylanwad yn nyddiau cynnar y drafodaeth genedlaethol ar ddatganoli addysg. Wedi ei ddyddiau gydag UCAC roedd yn parhau'n llais cadarn o fewn TUC Cymru. Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu a'i gyfeillion."

 

GWASANAETH LLESIANT I STAFF ADDYSGU YNG NGHYMRU

Medi 2023 

Mae iechyd meddwl a llesiant yn faterion sy’n cael sylw cynyddol ac mae’n bwysig cofio pa mor allweddol a phwysig y maent i staff ysgolion.  Mae Education Support yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella llesiant staff ysgolion ledled Cymru. 

Bob tymor mae Education Support  yn rhannu pecyn adnoddau a ddewiswyd yn ofalus ac yn benodol  ar gyfer athrawon, arweinwyr ysgolion a staff addysg yng Nghymru, yn llawn offer a chanllawiau ymarferol.

 Ydych chi’n athro, yn arweinydd ysgol neu’n aelod o staff addysg yng Nghymru?  Os felly, beth am gael golwg ar y deunyddiau hyn, er mwyn eich helpu i ofalu amdanoch eich hun a’ch cydweithwyr, tra byddwch chi’n brysur yn gofalu am eich disgyblion a’ch myfyrwyr. 

Trwy ddilyn y ddolen isod, fe welwch ystod o offer a chanllawiau sydd wedi'u profi ac sydd wedi eu dylunio ar eich cyfer chi yn unig. Thema'r tymor hwn yw ‘Eich taith llesiant’ ac mae'n cynnig sawl ffordd o fyfyrio ac ymgysylltu â llesiant staff, ble bynnag yr ydych ar eich taith.

Y DDOLEN
  https://www.educationsupport.org.uk/croeso-i-r-pecyn-cymorth-llesiant-staff-ar-gyfer-staff-ysgol-yng-nghymru/

Mae Education Support hefyd yn darparu llinell gymorth gyfrinachol am ddim. Gallwch ffonio 24/7 am gefnogaeth emosiynol: 08000 562 561.

Peidiwch ag aros nes bod pethau'n wirioneddol anodd i chi neu’n argyfwng cyn i chi ffonio'r rhif yna. Wrth gwrs gallwch alw bryd hynny ond mae'n bwysig iawn efallai eich bod yn cael cefnogaeth ynghynt os ydych chi mewn trafferthion. 

Mae holl dudalennau Education Support ar gael yn y Gymraeg.  Os digwydd i chi daro ar dudalen Saesneg, dewiswch CY o’r gwymplen ar frig y sgrin, er mwyn dod o hyd i adnoddau Cymraeg.