Lansiad Y Ganolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg (CDAPA)

23 Mai 2019

Lansiad Y Ganolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg (CDAPA)

Cynhaliwyd lansiad Y Ganolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg (CDAPA) yn y Tramshed yng Nghaerdydd ar nos Lun y 13eg o Fai.

Corff fydd yn cynnal prosiectau ac yn ymchwilio i fyd addysg yw CDAPA a bwriad y noswaith agoriadol oedd ‘symud y ddadl ar addysg yng Nghymru’.

Cafwyd cyflwyniad diddorol gan bennaeth ysgol gynradd leol a oedd wedi arloesi ym meysydd newydd y cwricwlwm. Yn yr ysgol, roedd gwaith thema yn bwysig ac roedd profiad y disgybl yn gwbl ganolog i’r broses dysgu ar bob adeg.

Braf oedd croesawu cynrychiolwyr o ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg a fu’n arloesi yn y cwricwlwm newydd dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd gan yr ysgol rhai enghreifftiau pendant, e.e. bu cydweithio ar draws pynciau uwchradd i greu prosiect o gwmpas dringo Pen y Fan. Yn y sector cynradd bu prosiect llwyddiannus am becynnau bwyd iach i ddysgwyr.

Mae’r prosiectau hyn, a nifer tebyg, yn darparu cyfleoedd gwerthchweil i ddisgyblion. Y camau nesaf fydd datblygu cyfleoedd dysgu ehangach a darparu amser i athrawon gynllunio ac i gyd weithio.

I gloi’r achlysur, dywedodd y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams, fod cynnal deialog cyson gyda rhieni a disgyblion yn holl bwysig wrth i’r cwricwlwm ddatblygu.

Yr her fwyaf, meddai’r Gweinidog, yw sicrhau hyder y genedl – gallwn lwyddo gyda’n gilydd.