YDYCH CHI'N GYMWYS I GAEL £5,000?

Medi 2023 

Yn ôl ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth am Fwrsariaeth o £5,000, er mwyn annog athrawon uwchradd Cymraeg a chyfrwng Cymraeg i aros yn y proffesiwn.  Er mwyn gallu derbyn y Fwrsariaeth, mae’n rhaid bodloni’r meini prawf canlynol:

  • eich bod wedi ennill statws athro cymwysedig (SAC) o fis Awst 2020 ymlaen
  • eich bod wedi cwblhau tair blynedd o addysgu mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol cyfrwng Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol ddwyieithog neu wedi addysgu Cymraeg fel pwnc mewn unrhyw ysgol uwchradd neu ysgol ganol a gynhelir yng Nghymru.

Cynllun peilot yw hwn a fydd ar gael am bum mlynedd.   Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am y Fwrsariaeth, dilynwch y ddolen isod:

Y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg: canllawiau i ymgeiswyr | LLYW.CYMRU

Mae’r cyfnod ymgeisio yn agor ar 1 Medi 2023. Dylai'r rhai sy'n credu eu bod yn gymwys wneud cais erbyn 30 Medi 2023. 

EISTEDDFOD LLŶN AC EIFIONYDD

Awst 2023 

Beth am alw yn stondin UCAC ar faes yr Eisteddfod?  Cewch groeso cynnes yno a chyfle i sgwrsio a chael seibiant dros baned.  Mae cyfleusterau ar y stondin hefyd i chi wefru eich ffôn symudol. 

Brynhawn dydd Iau, bydd ein Hysgrifennydd Cyffredinol, Ioan Rhys Jones yn rhan o banel mewn digwyddiad a drefnir gan TUC Cymru.  Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar sut y gall undebau a chyflogwyr yng Nghymru gydweithio gydag erail ar lefel strategol ac ymarferol i hyrwyddo hawliau'r Gymraeg yn y gweithle.  

Ewch draw i 'Cymdeithasau 2' am hanner awr wedi tri brynhawn Iau, 10 Awst 2023 i glywed y drafodaeth.   Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen:  Cydraddoldeb: Gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau Cymraeg | TUC

 

 

DIWEDD TYMOR - GWYLIAU HAF

21 Gorffennaf 2023

Mae blwyddyn ysgol 2022-23 yn prysur ddirwyn i ben a’r gwyliau haf ar fin dechrau.  Pob dymuniad da i’n holl aelodau yn ystod yr wythnosau nesaf.  Fel arfer, bydd gan UCAC stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Galwch draw i’n gweld yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd (5-12 Awst)!

DARPL (YR ADRAN GYDRADDOLDEB)

Gorffennaf 2023 

Yn ddiweddar bu dau gynrychiolydd o UCAC yng Nghynhadledd DARPL, cynhadledd ddysgu broffesiynol gwrth-hiliaeth, yng Nghaerdydd.  Yn ystod cyfarfod  Adran Gydraddoldeb UCAC cyn diwedd Tymor yr Haf, rhoddwyd cyfle i'r cynrychiolwyr gyflwyno adroddiad o’r Gynhadledd honno.  Yn y Gynhadledd, bu nifer o siaradwyr yn sôn am y profiadau enbyd o hiliaeth yr oeddent wedi eu dioddef yn ystod eu bywydau a nodwyd pa mor ddirdynnol oedd eu clywed yn rhannu eu profiadau.  Yn gefnlen i’r cyflwyniadau hyn, roedd gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.   Y neges gyson yn y Gynhadledd oedd pwysigrwydd gwrth-hiliaeth, er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth. 

Bellach, mae dysgu hanes pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru.  Mae’n bwysig cofio fod adnoddau sy’n benodol i Gymru ac adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael.  

Nodwyd yn y Gynhadledd fod gan arweinwyr ysgol rôl bwysig i’w chwarae wrth feithrin a sefydlu ethos wrth-hiliol.   Gellir cael canllawiau pellach yn y ddogfen isod:

Creu Diwylliant Gwrth-hiliol mewn Ysgolion Canllaw Ymarferol i Arweinwyr Ysgol yng Nghymru   - DARPL

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi llunio rhestr o dermau hil ac ethnigrwydd a theimlai aelodau’r Adran Gydraddoldeb bod y rhestr honno’n un werthfawr:  

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2023-05/termau-hil-ac-ethnigrwydd.pdf

SENEDD IEUENCTID CYMRU

4 Gorffennaf 2023 

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnal arolwg ar hyn o bryd ynghylch hyd y diwrnod ysgol.  Maent yn holi’r cwestiwn a oes digon o amser yn y diwrnod ysgol ar gyfer pob math o weithgareddau.  Yn ôl y bobl ifanc nid oes digon o amser weithiau ar gyfer pethau mwy creadigol neu gorfforol.  Mae’r arolwg yn holi barn pobl ifanc ac oedolion.   Rydym yn annog aelodau UCAC i lenwi’r arolwg i oedolion, drwy ddilyn y ddolen ganlynol: 

 

https://seneddieuenctid.senedd.cymru/pwyllgorau/addysg-a-r-cwricwlwm-ysgol/

 

 Yn ôl yr arolwg:

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newid hyd y diwrnod ysgol mewn grwpiau oedran ysgol gynradd ac ysgol uwchradd i weld a allai hyn gael effaith gadarnhaol ar y canlynol:

-          Lles a hyder pobl ifanc

-          Y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig (fel ardaloedd tlotach) i gyflawni yn eu man dysgu 

-          Sgiliau cymdeithasol a phersonol pobl ifanc

Mae rhai treialon wedi'u cynnal lle ychwanegwyd 5 awr at yr wythnos ysgol (mewn rhai treialon mae hyn wedi golygu awr ychwanegol y dydd, mewn eraill mae’r oriau wedi’u rhannu ar draws 4 diwrnod). Yn y treialon hyn roedd pobl ifanc yn mynychu'n wirfoddol ac nid oedd unrhyw dâl yn cael ei godi ar bobl ifanc na rhieni/gwarcheidwaid. Roedd enghreifftiau o’r math o weithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y treialon hyn yn cynnwys gweithgareddau corfforol, sesiynau i wella lles, a phrofiadau newydd efallai na fyddai pobl ifanc fel arfer wedi gallu eu fforddio, gan gynnwys pethau fel jiwdo, trin gwallt, celfyddydau digidol, gwyddbwyll, adrodd straeon, a gweithgareddau antur awyr agored.

Yn sicr byddai oblygiadau i athrawon a staff ysgolion pe bai hyd y diwrnod yn cael ei ymestyn.  Un o’r cwestiynau sy’n cael ei holi yw ‘Pwy ddylai fod yn gyfrifol am gynnal y mathau hyn o weithgareddau?’ ac ymhlith yr opsiynau mae ‘Staff mewn mannau dysgu (fel athro ysgol, neu gynorthwyydd addysgu)’

Ymhlith yr opsiynau a gynigir o ran pryd y dylid rhoi’r ‘amser ychwanegol’ at y diwrnod ysgol, ceir ystod o ddewisiadau, gan gynnwys ‘Cyn i wersi ddechrau yn y bore’ ‘Yn ystod amser cinio’ ac ‘Ar ôl i wersi orffen yn y prynhawn’ neu gyfuniad o’r rhain i gyd.

Gyda staff ysgol yn wynebu llwyth gwaith trwm a’r her i recriwtio a chadw athrawon yn dyfnhau, mae’n bwysig bod athrawon yn ‘dweud eu dweud’ ac yn mynegi eu barn am y cynigion sydd gerbron. 

Nid yw’n arolwg hir – ewch ati nawr i ddweud eich barn.  Mewn undeb mae nerth!