Ymateb UCAC i ddatganiad Llywodraeth Cymru ar Adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru 2022-23.

22 Gorffennaf 2022 

Mae UCAC yn gresynu bod y cyhoeddiad hwn wedi ei wneud gyda'r mwyafrif o ysgolion Cymru eisoes wedi cau am y flwyddyn addysgol. Mae hyn yn creu ansicrwydd ychwanegol i arweinwyr ac athrawon mewn cyfnod o heriau neilltuol yn y byd addysg.

Bydd UCAC yn edrych ar fanylder y cyhoeddiad gan roi sylw penodol i addewid Llywodraeth Cymru na fydd arweinwyr ac athrawon Cymru ar eu colled o’u cymharu â chyflogau ac amodau gwaith swyddi cyfatebol yn Lloegr. Byddwn hefyd yn edrych ar oblygiadau’r addewidion ar gyfer Medi 2023.

Yn sicr, nid yw’r codiad cyflog sydd wedi ei gyhoeddi’n adlewyrchu’r lefelau chwyddiant sydd yn cael ei brofi ar hyn o bryd. Mae hynny’n siom ar adeg pan mae staff ysgol wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau eu swyddi er mwyn sicrhau lles addysgol; iechyd corff a meddwl disgyblion ysgol.

Darllen mwy

UCAC yn cynnal ei chynhadledd flynyddol wyneb yn wyneb cyntaf ers tair blynedd ar ddydd Gwener, 10 Mehefin 2022

09 Mehefin 2022 

Bydd UCAC yn croesawu aelodau o Gymru ben baladr i Brifysgol Aberystwyth yfory am ei chynhadledd flynyddol wyneb yn wyneb cyntaf ers tair blynedd. Bydd nifer yn ymuno drwy TEAMS yn ogystal.  

Dywed Dilwyn Roberts Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC - “Fe fydd yn bleser gallu cwrdd â Chynadleddwyr newydd a phrofiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth yfory. Edrychwn ymlaen yn fawr at gael y cyfle i drafod a gosod polisi UCAC am y flwyddyn sydd i ddod. 

Rydym yn disgwyl sawl trafodaeth fywiog, gyda chynigion yn galw ar y Gynhadledd i ystyried newid enw’r Undeb; estyn gwahoddiad i gymorthyddion ymuno â’r Undeb a gofyn i’r Llywodraeth i ystyried o ddifri eu cynlluniau o ran diwygio’r flwyddyn ysgol. 

Darllen mwy

Cwestiynau'n codi am gymhwysterau Cymraeg

16 Chwefror 2022

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Gymwysterau Cymru heddiw ynghylch newidiadau i gymwysterau Cymraeg, dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC “Dim ond penawdau sydd wedi’u rhyddhau heddiw, heb fanylder ynghylch y penderfyniadau pwysig hyn. Deallwn y cyhoeddir yr adroddiad llawn ar 2 Mawrth ac edrychwn ymlaen at hynny. Yn y cyfamser, mae nifer fawr o gwestiynau o egwyddor, a chwestiynau ymarferol yn codi.

“Ar gyfer pob pwnc a maes yn y cwricwlwm, yr egwyddor sylfaenol yw bod disgyblion yn gwella ac yn datblygu yn barhaus, heb lithro am yn ôl. Nid ydym yn sicr yn sgil y wybodaeth a ryddhawyd heddiw, a fyddai disgybl sydd wedi cael addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a/neu sydd â’r Gymraeg ar yr aelwyd, ond sy’n mynychu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn sefyll y cymhwyster Iaith a Llenyddiaeth, neu’r TGAU Cymraeg sy’n amlwg yn cyfateb i Gymraeg Ail Iaith. Rhaid sefydlu’n gwbl glir a chadarn yr egwyddor, a’r trefniadau ymarferol, i sicrhau cynnydd parhaus, waeth pa ‘gategori’ o ysgol mae disgybl yn mynychu.

Darllen mwy