Cwestiynau'n codi am gymhwysterau Cymraeg
16 Chwefror 2022
Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Gymwysterau Cymru heddiw ynghylch newidiadau i gymwysterau Cymraeg, dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC “Dim ond penawdau sydd wedi’u rhyddhau heddiw, heb fanylder ynghylch y penderfyniadau pwysig hyn. Deallwn y cyhoeddir yr adroddiad llawn ar 2 Mawrth ac edrychwn ymlaen at hynny. Yn y cyfamser, mae nifer fawr o gwestiynau o egwyddor, a chwestiynau ymarferol yn codi.
“Ar gyfer pob pwnc a maes yn y cwricwlwm, yr egwyddor sylfaenol yw bod disgyblion yn gwella ac yn datblygu yn barhaus, heb lithro am yn ôl. Nid ydym yn sicr yn sgil y wybodaeth a ryddhawyd heddiw, a fyddai disgybl sydd wedi cael addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a/neu sydd â’r Gymraeg ar yr aelwyd, ond sy’n mynychu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn sefyll y cymhwyster Iaith a Llenyddiaeth, neu’r TGAU Cymraeg sy’n amlwg yn cyfateb i Gymraeg Ail Iaith. Rhaid sefydlu’n gwbl glir a chadarn yr egwyddor, a’r trefniadau ymarferol, i sicrhau cynnydd parhaus, waeth pa ‘gategori’ o ysgol mae disgybl yn mynychu.