Gwybodaeth gan UCAC: athrawon cyflenwi
4 Mai 2020
Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn parhau mewn cyfnod anodd iawn i’r sector addysg ac i’r wlad. Ymhellach, rydym yn llwyr ymwybodol eich bod fel aelodau cyflenwi/llanw yn parhau i wynebu cyfnod ansicr iawn yn ariannol, yn enwedig y rhai ohonoch sy’n derbyn eich cyflog yn uniongyrchol gan yr awdurdodau neu’n disgwyl i gwmni ambarél sicrhau ‘furlough’ os ydych yn gweithio i asiantaeth.
Oherwydd hynny, rydym yn parhau i drafod â’r awdurdodau ar ran pob un ohonoch.
Ymhellach, o ran y rhai ohonoch sy’n derbyn eich cyflog yn uniongyrchol gan yr awdurdodau rydym yn rhoi pwysau mawr ar Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) i weithredu er mwyn sicrhau bod cyfarwyddiadau clir yn cael eu trosglwyddo at sylw’r awdurdodau a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio’r cynllun cymorth ariannol sy’n bodoli.
Yn ogystal, mae’r trafodaethau’n parhau ag uwch swyddogion Cyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru. Rydym yn disgwyl arweiniad pellach o ran ‘furlough’ a’r sector gyhoeddus yn fuan, a mawr obeithiwn y bydd hyn yn gymorth wrth i ni frwydro i sicrhau tegwch i chi.