Canllawiau Covid-19 ar gyfer Addysg Uwch
17 Mehefin 2020
17 Mehefin 2020
17 Mehefin 2020
11 Mehefin 2020
Cyn bod unrhyw aelod yn dychwelyd i’r ysgol, mae UCAC o’r farn ei fod yn allweddol bod y Llywodraeth yn sicrhau fod pob un o’r pum egwyddor sylfaenol a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg wedi eu diwallu:
09 Mehefin 2020
Heddiw bu i ni gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf ers ei datganiad ac rydym wedi gosod yn glir ein pryderon a’n hanfodlonrwydd mewn gohebiaeth sydd ar gael yma:
Yn ogystal â’r llythyr ffurfiol rydym wedi rhannu rhestr gynhwysfawr o gwestiynau gyda chais am atebion buan. Mae’r ddogfen honno ar gael yma:
Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau all fwydo i’r drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol er mwyn sicrhau lles ac iechyd staff a disgyblion ein hysgolion.
Gan obeithio eich bod yn ddiogel ac iach, cofiwch fod UCAC yma i chi ar gyfer pob ymholiad.
3 Mehefin 2020
Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad y Gweinidog Addysg heddiw bod ysgolion yn mynd i ail-agor yn raddol i bob disgybl o 29 Mehefin.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r undebau addysg wedi bod mewn trafodaethau cyson gyda Llywodraeth Cymru ers dechrau’r argyfwng, gan gynnwys ynghylch ail-agor ysgolion. Gyda’n gilydd, mae’r proffesiwn wedi llwyddo i ddarparu’n arwrol ar gyfer disgyblion Cymru yn ystod y cyfnod helbulus hwn.
“Fodd bynnag, rydym yn gresynu’n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ail-agor cyn yr haf.
“Mae’r ystyriaethau ymarferol sydd ynghlwm â cheisio sicrhau bod hyd yn oed nifer bychan o ddisgyblion yn dychwelyd cyn yr haf yn eithriadol o gymhleth – heb sôn am geisio sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddychwelyd. Mae creu amgylchedd mor ddiogel â phosib i bawb tra’n cynnal awyrgylch groesawgar a chefnogol yn her anferthol.