Undebau ar y cyd yn cyhoeddi graddfeydd cyflog athrawon 2018 - 2019

Awst 2018

Undebau ar y cyd yn cyhoeddi graddfeydd cyflog athrawon 2018 - 2019

Mae’r graddfeydd cyflog sydd wedi eu hatodi yn adlewyrchu effaith y codiad cyflog arfaethedig i ystodau cyflog athrawon ar gyfer 2018-19 pan osodir y codiad cyflog ar y pwyntiau cyflog unigol ar yr ystodau hynny a argymhellwyd yn ein cyngor ar y cyd ar gyfer 2017-18.  

Cyhoeddir cyngor pellach ar y cyd ar gyflog ar gyfer 2018-19 maes o law.

Graddfeydd cyflog 2018-2019

Dyfarniad Cyflog Athrawon

26 Gorffennaf 2018

Datganiad ar y cyd gan Association of School and College Leaders (ASCL) Cymru, National Association of Head Teachers (NAHT) Cymru, National Education Union (NEU) Cymru, Voice ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Dyfarniad Cyflog Athrawon

Mae’r datganiad hwn yn dilyn cyhoeddiad ar y dyfarniad cyflog i Athrawon a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar Addysg, Damian Hinds, yn Nh?’r Cyffredin ar ddydd Mawrth 24 Gorffennaf. Mae’r ffaith bod y datganiad yn dod ar y cyd gan nifer o undebau addysg yng Nghymru yn dangos bod gennym bryder difrifol am y modd y bydd y dyfarniad cyflog yn cael ei ariannu yng Nghymru a’r effaith posib ar ysgolion Cymru.

Nid yw’r penderfyniad ar gyflogau athrawon yn fater sydd wedi ei ddatganoli ac mae’r dyfarniad yn berthnasol i athrawon ac arweinyddion yn Lloegr a Chymru. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gyllid ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer Lloegr a Chymru.
Mae Adran Addysg San Steffan yn darparu peth cyllid ychwanegol o fewn ei chyllidebau ei hunan ar gyfer ysgolion yn Lloegr ond nid oes cyhoeddiad wedi bod am unrhyw drefniadau ar gyfer ysgolion yng Nghymru.
Mae’n annidwyll cyhoeddi dyfarniad cyflog i athrawon yn Lloegr a Chymru ac yna peidio ariannu’r dyfarniad hwnnw i gyfran o’r athrawon hynny. Mae ein hundebau yn teimlo ei bod hi’n ddyletswydd ar y Trysorlys i ariannu’r dyfarniad cyflog yn llawn i athrawon ac arweinyddion yn Lloegr a Chymru.

Os na fydd y Trysorlys yn ariannu’r dyfarniad yn llawn, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i brofi eu hymrwymiad i’r haeriad eu bod yn rhoi gwerth ar athrawon, trwy ddarparu’r cyllid angenrheidiol i sicrhau bod y dyfarniad yn cael ei ariannu’n llawn ac na fydd yn rhoi pwysau annerbyniol ar gyllidebau ysgolion sydd eisoes dan straen dybryd. Yn anochel, bydd y costau ychwanegol yn gyrru mwy o ysgolion i ddiffyg ariannol gan arwain at doriadau fydd yn cael effaith ar y disgyblion.

Rydym wedi synnu ac wedi’n siomi o weld ei bod hi’n ymddangos bod cyn lleied o ystyriaeth wedi ei roi i gyllido’r dyfarniad yng Nghymru. Byddem wedi disgwyl y byddai ystyriaeth wedi ei roi i'r mater cyn y cyhoeddiad dydd Mawrth ac y byddai’r cyhoeddiad wedi cynnwys Gwybodaeth ar y modd y byddai’r dyfarniad yn cael ei gyllido yng Nghymru.
Rydym yn anfon y datganiad hwn i’r Trysorlys, Adran Addysg San Steffan a Llywodraeth Cymru ac yn eu gwahodd hwy i ymateb i’n sylwadau.

Rydym yn nodi hefyd nad yw’r dyfarniad cyflog ei hun yn cydnabod gwaith caled na phroffesiynoldeb nifer o uwch athrawon ac arweinyddion. Wrth groesawu’r codiad cyflog o 3.5% - ar ôl nifer o flynyddoedd ble mae cyflogau wedi eu capio a’u rhewi - nodwn y bydd cyflogau uwch ac arweinyddol yn derbyn dyfarniad sy’n is na’r raddfa chwyddiant a hynny’n mynd yn gwbl groes i gyngor annibynnol y School Teacher Review Body i roi dyfarniad o 3.5% iddynt.

Gan mai cynnydd costau byw yw hwn mae’n gwbl annerbyniol ei dalu ar wahanol raddfeydd gan fod pob athro ac arweinydd yn haeddu dyfarniad sydd o leiaf yn cynnal gwerth eu cyflogau. Nid yw ychwaith yn mynd i’r afael â’r angen i sicrhau ein bod yn dal ein gafael ar yr athrawon a'r arweinyddion profiadol yn y proffesiwn.

Croesawu adroddiad ar brinder gwerslyfrau ac adnoddau

19 Gorffennaf 2018

Croesawu adroddiad ar brinder gwerslyfrau ac adnoddau

Mewn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC:

“Rydym yn falch iawn bod y Pwyllgor wedi dewis ymchwilio i’r pwnc hwn sydd wedi bod yn achosi problemau gwirioneddol i athrawon a dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ers blynyddoedd.

“Rydyn ni’n gwybod mai amserlen diwygio cymwysterau rhy uchelgeisiol oedd wrth wraidd y problemau enbyd a fu yn ystod y tair blynedd diwethaf – ac mae gwersi i’w nodi yn y cyd-destun hwnnw gyda diwygiadau anferth i’r cwricwlwm ar y ffordd.

“Ond mae’r problemau’n fwy systemig na hynny, ac yn ymwneud â sut mae adnoddau’n cael eu comisiynu, gan bwy, a phryd. Mae’n bryd i ni gael ymagwedd gwbl wahanol at yr holl broses, gan gynnwys llawer mwy o bwyslais ar adnoddau Cymreig wedi’u comisiynu a’u cynhyrchu yng Nghymru.

“Yn y bôn, mae hyn yn fater o sicrhau tegwch a pharch at ddisgyblion ac athrawon ym mhob ysgol yng Nghymru, beth bynnag yw cyfrwng eu hiaith.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Model tâl ac amodau gwaith Cymru'n cael croeso

18 Gorffennaf 2018

Model tâl ac amodau gwaith Cymru'n cael croeso

Mewn ymateb i ddatganiad Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg heddiw ynghylch y model ar gyfer pennu tâl ac amodau gwaith athrawon yng Nghymru, dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC:

"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw sy'n amlinellu'r strwythur newydd fydd yn gwneud penderfyniadau am dâl ac amodau gwaith athrawon Cymru am y tro cyntaf erioed. Mae UCAC yn rhoi croeso yn arbennig i'r pwyslais ar gyd-drafod rhwng cyflogwyr, Llywodraeth Cymru ac undebau sy'n cynrychioli athrawon, gan osgoi ymgynghoriad cyhoeddus amhriodol ar dâl ac amodau gwaith y proffesiwn."

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, darpar Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC "Mae UCAC yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r trafodaethau hanesyddol hyn. Erbyn mis Medi 2019 bydd y penderfyniadau cyntaf ynghylch tâl ac amodau gwaith athrawon Cymru wedi cael eu gwneud a hynny yng Nghymru, ar sail blaenoriaethau ac ystyriaethau Cymreig yn benodol. Mae hyn yn benllanw ymgyrchu gan UCAC dros flynyddoedd ac yn gwireddu un o brif ddyheadau'r undeb ers ei sefydlu."

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Angen i Lywodraeth Cymru adolygu pa mor ddigonol yw cyllidebau ysgolion.

20 Mehefin 2018

Angen i Lywodraeth Cymru adolygu pa mor ddigonol yw cyllidebau ysgolion.

Yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad heddiw ar gyllid wedi ei dargedu i wella canlyniadau addysgol plant difreintiedig, meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC:

“Mae’r Pwyllgor wedi adnabod y straen ariannol ychwanegol ar ysgolion oherwydd tan-gyllido. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Grant (Grant Datblygu Disgyblion) ar sail y niferoedd cywir o ddisgyblion difreintiedig sydd angen cymorth ar unrhyw adeg. Mae’r argymhelliad i ddarparu cyllid ar gyfer y nifer cywir o ddisgyblion yn un amlwg ond un pwysig; gallai gweithredu hyn wneud gwahaniaeth sylweddol i gyllidebau ysgolion ac i ddeilliannau disgyblion.”

“Nid yw heriau addysgiadol disgyblion yn newid dros nos pan fydd sefyllfa’r cartref yn gwella,” meddai, “ac mae’r argymhelliad i ymestyn y gefnogaeth dros gyfnod hirach yn allweddol i lwyddiant disgyblion.”

“Mae’n amlwg, hefyd, nad yw’r cyllido ar hyn o bryd wedi ei dargedu’n effeithiol tuag at anghenion plant mewn gofal a phlant sydd wedi eu mabwysiadu ac mae’r Pwyllgor yn adnabod gwelliannau sydd angen eu cyflwyno er lles y disgyblion hyn.”

“Croesawn hefyd y sylw sy’n cael ei roi i ddisgyblion mwy abl a thalentog– a’r angen i gefnogi bob disgybl difreintiedig i gyrraedd ei botensial.”

“Gwyddom fod pwysau ariannol aruthrol ar ysgolion ar hyn o bryd ac, er nad oedd materion cyllidol ehangach ysgolion o fewn Cylch Gorchwyl ymchwiliad y Pwyllgor, mae UCAC yn croesawu’r argymhelliad  y dylai Lywodraeth Cymru ‘barhau i adolygu pa mor ddigonol yw cyllidebau ysgolion’.”

“Mae yna  argyfwng ariannol gwirioneddol yn ein hysgolion ac mae hyn yn sicr o gael effaith ar gyrhaeddiad disgyblion. Mae UCAC yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau cyllido digonol ar gyfer ysgolion yn gyffredinol. “

“Edrychwn ymlaen at glywed ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion sydd yn yr adroddiad.”

DIWEDD

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli  athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.