Buddsoddiad mewn Dysgu Proffesiynol yn hanfodol

12 Tachwedd 2018

Buddsoddiad mewn Dysgu Proffesiynol yn hanfodol

Mewn ymateb i ddatganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mae undeb addysg UCAC wedi dweud bod dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yn hanfodol os yw’r diwygiadau i’r cwricwlwm a’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol yn mynd i lwyddo.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae’n anodd dirnad maint a dyfnder y newidiadau sy’n dod i’n system addysg dros y blynyddoedd nesaf. Ffolineb llwyr fyddai meddwl bod diwygiadau ar y fath raddfa’n bosib heb fuddsoddiad sylweddol iawn mewn dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu.

“Rydym yn falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi cyllid penodol er mwyn hwyluso’r math o ddysgu proffesiynol sydd ei angen, gyda phwyslais ar ddulliau amrywiol a hyblygrwydd, a hynny law yn llaw gyda lles athrawon.

“Cytunwn â hi bod angen sicrhau’r lefelau a’r safonau priodol o ddysgu proffesiynol tra’n gochel rhag tarfu ar addysg disgyblion ar y naill law, a rhag pentyrru gofynion afresymol ar y gweithlu ar y llaw arall. Er mwyn neilltuo’r amser sy’n angenrheidiol, rhaid buddsoddi.

“Edrychwn ymlaen at weld manylder y cynigion o ran yr opsiynau amrywiol sydd ar gael, gan obeithio y byddant – fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet, a’r proffesiwn ei hun yn ei obeithio - yn arwain at ‘weddnewid sut mae athrawon yn dysgu’n llwyr’ ar gyfer y tymor hir.”

DIWEDD

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Cyngor ar y Cyd ar Gyflog Athrawon Ysgol 2018-19

9 Hydref 2018

Cyngor ar y Cyd ar Gyflog Athrawon Ysgol 2018-19

Mae Llywodraeth San Steffan bellach wedi cyhoeddi Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018 (STPCD), yn dilyn ei chyhoeddiadau ar gyflog athrawon ysgol ar gyfer 2018-19 ac wrth ystyried argymhellion Corff Adolygu Athrawon Ysgol (STRB).

Mae UCAC ynghyd ag ASCL, NAHT, NEU, VOICE yn ganolog wedi paratoi cyngor ar y cyd ar gymhwyso’r newidiadau hyn, gan gynnwys mabwysiadu graddfeydd cyflog a chymhwyso codiadau cyflog unigol.

2018-19 Pay Scale Points - National Joint Advice CYMRU Online RD

Angen dyblu’r nifer sy’n hyfforddi i fod yn athrawon â sgiliau Cymraeg, medd adroddiad

1 Hydref 2018

Angen dyblu’r nifer sy’n hyfforddi i fod yn athrawon â sgiliau Cymraeg, medd adroddiad

Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu dadansoddiad ac argymhellion adroddiad a gyhoeddwyd ar 28 Medi ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC: "Mae'r adroddiad yn cadarnhau'r hyn mae UCAC wedi bod yn pwysleisio ers sawl blwyddyn sef bod y ddarpariaeth o ran sgiliau Cymraeg oddi fewn i raglenni Addysg Gychwynnol athrawon yn anghyson, yn dameidiog ac - mewn gwirionedd - yn gwbl annigonol. Nid yw’n dod yn agos at gyflenwi anghenion ysgolion ar hyn o bryd, heb sôn am y twf mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arno i greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

“Mae’r gwerthusiad yn llygad ei le pan ddywed bod angen i Addysg Gychwynnol Athrawon “bron ddyblu nifer yr hyfforddeion sy’n cael eu hyfforddi’n flynyddol” â sgiliau Cymraeg. Collwyd cyfle pwysig iawn i nodi gofynion mwy pendant ac uchelgeisiol adeg llunio’r meini prawf achredu ar gyfer y darparwyr oedd am gynnig y cyrsiau Addysg Gychwynnol newydd o fis Medi 2019.

“Cytunwn â’r argymhelliad y dylai darpariaeth sgiliau Cymraeg – wedi’i deilwra’n briodol, a gyda lefelau addas o gefnogaeth - fod yn elfen orfodol o bob rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon.

“Pwyswn ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar sail yr argymhellion yn y gwerthusiad. Fel arall, byddwn yn colli cyfle ar ôl cyfle i adeiladu’r seilwaith sy’n angenrheidiol ar gyfer twf mewn addysg Gymraeg. Heb athrawon â’r sgiliau priodol, nid yw twf yn bosib.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

UCAC yn croesawu argymhellion ar dâl ac amodau gwaith athrawon

21 Medi 2018

UCAC yn croesawu argymhellion ar dâl ac amodau gwaith athrawon

Heddiw, cyhoeddwyd ‘Addysgu: Proffesiwn gwerthfawr’, sef adroddiad panel annibynnol, wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, sy’n gwneud argymhellion ynghylch creu ‘Fframwaith Gyfra, Amodau a Chyflog ar gyfer Athrawon yng Nghymru’.

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae UCAC yn croesawu'r adroddiad; mae’r argymhellion yn fan cychwyn da iawn ar gyfer gwella statws ac amodau gwaith athrawon Cymru.

"Mae adroddiad y Panel yn dangos dealltwriaeth o rai o'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu'r proffesiwn ac awydd i fynd o'r afael â nhw - er budd nid yn unig y proffesiwn ond y system addysg yn ei chyfanrwydd.

"Hyderwn y bydd yr argymhellion hyn dylanwadu ar y broses o lunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 a'r Gyllideb addysg yn benodol.

"Gweledigaeth UCAC ar hyd y blynyddoedd oedd sicrhau cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru. Gyda datganoli’r p?er dros dâl ac amodau gwaith athrawon, mae hynny ar fin cael ei wireddu, ac mae'r argymhellion yn yr adroddiad yn gyfraniad gwerthfawr at y drafodaeth. Mae UCAC yn edrych ymlaen at chwarae rôl flaenllaw yn y broses dros y cyfnod i ddod."

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.