5 Rhagfyr 2018

5 Rhagfyr 2018

Ar Ddydd Iau, Tachwedd, 29ain, mynychodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, gyfarfod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd.

Roedd yn gyfle, gyda chynrychiolwyr o undebau eraill, i fwrw trosolwg ar yr heriau cyllido sy’n bodoli ym mhob cwr o Gymru. Cytunwyd yn y cyfarfod bod angen i gynrychiolwyr y cyflogwyr a chynrychiolwyr y cyflogai sefydlu patrwm o gyfarfodydd ynghyd â sicrhau bod cyfathrebu clir yn digwydd rhwng yr undebau a’r Gymdeithas.

Rhydd perthynas o’r fath gyfleoedd i ni anfon negeseuon cyson i Lywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau o ran cyllido gan sicrhau bod unrhyw arian yn cyrraedd yn y mannau fydd yn mynd i’r afael â phryderon ein haelodau.

Athrawon ac arweinyddion ysgol yw adnoddau pwysicaf y byd addysg ac mae’n allweddol bod pwyslais ar ddiogelu swyddi ynghyd â sicrwydd nad oes tanseilio ar gyflogau ac amodau gwaith. Bydd angen dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i ryddhau arian digonol ar gyfer gwireddu’r datblygiadau eang sy’n wynebu ysgolion yn y blynyddoedd nesaf.

Mae UCAC yn croesawu’r bwriad i sicrhau perthynas fwy strwythuredig gyda’r Gymdeithas - a hynny’n unol â cheisiadau’r Undeb dros gyfnod estynedig. Rydym hefyd yn dymuno’n dda i Steve Thomas, Prif Weithredwr y Gymdeithas, ar ei ymddeoliad ar ddiwedd y flwyddyn.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950

Cyfarfod gyda Swyddogion Sir y Fflint

21 Tachwedd 2018

Cyfarfod gyda Swyddogion Sir y Fflint

Ar ddydd Llun, Tachwedd yr 19eg, yn swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint, bu Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC mewn cyfarfod gyda’r Prif Weithredwr Colin Everett a’r Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Claire Homard. 

Roedd y cyfarfod yn gyfle i rannu pryderon am gyllido addysg ac oblygiadau hynny i gyflogau, i amodau gwaith a sicrwydd swyddi athrawon sy’n gweithio yn Sir y Fflint. Roedd y cyfarfod yn un o gyfres o gyfarfodydd sydd wedi digwydd gyda gwahanol awdurdodau a fydd yn parhau i ddigwydd ar gyfnod mor heriol i’r proffesiwn ac i’r system addysg.

Roedd y cyfarfod yn amserol gan fod yr awdurdod wedi lansio ymgyrch y dydd canlynol yn pwyso am gyllid teg i lywodraeth leol ac i Sir Y Fflint. Mae manylion am yr ymgyrch honno ar gael yma: www.siryfflint.gov.uk/EinSiryFflint19-20

Mae Cyngor Sir y Fflint ‘yn gofyn i Lywodraeth Cymru #CefnogiGalw am £5.6m yn fwy o gyllid i Sir y Fflint’. Yn ôl datganiad y Prif Weithredwr mae’r awdurdod angen ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu ‘gwarchod gwasanaethau lleol a chadw’r cynnydd Treth Cyngor i lawr'.

Roedd y cyfarfod yn drafodaeth gadarnhaol ble roedd yr awdurdod yn cytuno gyda phryderon UCAC am ariannu addysg. Bu i iddynt bwysleisio eu hymrwymiad i weithio’n glos gyda’r undebau ac i sicrhau bod unrhyw drafodaethau’n digwydd mewn modd agored a thryloyw.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950

Gr?p Gweithredol Athrawon Cyflenwi

15 Tachwedd 2018

Gr?p Gweithredol Athrawon Cyflenwi

Mae UCAC wedi bod yn mynychu cyfres o gyfarfodydd ble mae ystyriaeth wedi cael ei rhoi i gyflogau ac amodau gwaith athrawon cyflenwi.

Yn y cyfarfodydd hynny rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau tegwch i athrawon cyflenwi gan amlygu pryderon am gyflogau isel, tanseilio hawliau a'r diffygion mewn cyfleoedd datblygu proffesiynol.

Mynychodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young, y cyfarfod diweddaraf ar Ddydd Iau, Tachwedd 11eg ble cododd nifer o faterion.

Bydd datganoli cyflogau ac amodau gwaith yn y pen draw yn rhoi cyfle euraidd i ystyried cyfleoedd datblygiad proffesiynol athrawon cyflenwi.

Mae’r Model Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NAPL) yn fuddsoddiad mewn ymateb i’r newidiadau sy’n dod i’n system addysg dros y blynyddoedd nesaf. Bydd angen edrych ar effaith yr arian ychwanegol ar gyfleoedd i ysgolion gyflogi athrawon cyflenw a'u dullia o wneud hynny.

Dros y dyddiau nesaf bydd UCAC yn codi llais ar ran athrawon cyflenwi wrth ymateb i ymgynghoriad Comisiwn Gwaith Teg ac yn amlygu’r pryder sydd gennym am athrawon sy’n wynebu cyhuddiadau tra'n gweithio i asiantaethau.

Mae UCAC wedi ymrwymo i ymgyrchu i sicrhau bod athrawon cyflenwi’n cael eu trin yn gydradd a gyda pharch fel aelodau gwerthfawr o’r gweithlu addysg.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950

Adolygiad Athrawon yn Gweithio’n Hwyach: Adroddiad Terfynol

15 Tachwedd 2018

Adolygiad Athrawon yn Gweithio’n Hwyach: Adroddiad Terfynol

Yn Hydref 2014 comisiynwyd adroddiad i ystyried goblygiadau iechyd a chyflogaeth athrawon sy'n gweithio'n hwy o ganlyniad i'r cynnydd yn yr oedran pensiwn arferol.

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi cymryd rhan gyflawn yn y drafodaeth sydd wedi arwain at gyhoeddi'r adroddiad. Gellir dod o hyd i'r adroddiad hwn yn:

https://www.gov.uk/government/publications/teachers-working-longer-review-final-report

Mae'r adroddiad terfynol, a gyhoeddwyd ar y 5ed o Dachwedd, yn cynnwys nifer o argymhellion sy'n haeddu ystyriaeth ofalus. Maent yn cynnwys sicrhau:

  • mwy o gydnabyddiaeth i gyfraniad athrawon h?n fel rhan allweddol o'r gweithlu addysgu;
  • cefnogaeth gyson ac effeithiol ar gyfer iechyd a lles corfforol, meddyliol ac emosiynol athrawon a hynny trwy gydol eu gyrfa;
  • mwy o gymorth wrth reoli gweithlu oedran amrywiol a chael y gorau o athrawon h?n;
  • hyrwyddo a gweithredu ar weithio’n hyblyg ar draws pob ysgol er mwyn cefnogi diwylliant amrywiol sy'n gynhwysol i bob oedran.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod y gr?p yn parhau i gwrdd gan gydnabod bod newid y diwylliant o fewn y system addysg yn cynnig her i’r llwyodraeth, i gyflogwyr, y cyflogai a’r undebau. Ar adeg pan mae cyfyngiadau ariannol yn tanseilio'r proffesiwn ac yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles, mae angen buddsoddiad sylweddol er mwyn galluogi ysgolion i gefnogi amrywiaeth.

Dyna’r her ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac mae'r adroddiad yn sylfaen ddefnyddiol ar gyfer y trafodaethau sydd eu hangen.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950

Cynllun Teachers' Pensions

14 Tachwedd 2018

Cynllun Teachers' Pensions

Bydd nifer helaeth o'n haelodau yn perthyn i'r Cynllun Teachers' Pensions.

Erbyn hyn bydd nifer o'r aelodau hynny wedi cofrestru ar ardal My Pension Online gwefan y cynllun gyda chynnydd sylweddol yn y nifer sydd wedi cofrestru yn y deuddeng mis diwethaf - dros 15,000 aelod y mis.

Trwy gydol y flwyddyn mae swyddogion UCAC yn mynychu cyfarfodydd gyda Capita, sy'n gweinyddu'r Cynllun, er mwyn ystyried pa mor effeithiol yw'r Cynllun a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig.

Roedd yr Ysgrifenydd Cyffredinol, Dilwyn Roberts-Young, mewn cyfarfodydd ar Ddydd Llun, Tachwedd 12fed yn swyddfeydd Llundain Capita yn ystyried y modd mae'r Cynllun yn ymgysylltu gyda'r aelodau.

Roedd neges ddiddorol yn codi o'r cyfarfodydd am yr angen i aelodau edrych ar eu 'cyfrif' Teachers' Pensions fel pe bydden nhw'n edrych ar eu ‘cyfrif’ banc.

Mae gwefan My Pensions Online yn derbyn dros ddeugain miliwn ymweliad y flwyddyn gyda dros ddwy filiwn o ymweliadau i'r adran ar ddatganiad buddiannau.

Ar adegau yn ystod eu gyrfa bydd aelodau o'r Cynllun yn cysylltu gyda'r cyflogwr a'r undebau gydag ymholiadau am eu pensiwn. Rhaid pwysleisio bod y ffigyrau sydd ar gael i'r aelodau ar wefan My Pensions Online yn rhai gyfredol a chywir.

Mae UCAC felly’n annog aelodau i gofrestru ar y gwasanaeth My Pensions Online ac i wirio bod y wybodaeth amdanynt yn gyfredol ac yn gywir. Eich arian chi yw arian y Cynllun sy'n cael ei weinyddu gan Capita ac mae angen sicrhau bod pob diwrnod o'ch gwasanaeth wedi ei gofnodi.

Rhan o'r adborth sydd gennym wrth baratoi ar gyfer y cyfarfodydd hyn yw'r ymholiadau yr ydym yn ei gael gan aelodau. O ran cyfathrebu mae nifer yn mynegi diffygion o ran y Gymraeg ac mae'n bwysig nodi bod pob ffurflen ar gael yn y Gymraeg gan Capita. Er mwyn dangos bod galw am y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg - mynnwch yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg!

Os oes gennych ymholiad am eich pensiwn cysylltwch gyda'ch swyddog maes ac er mwyn bod y wybodaeth gyfredol gennych cofrestrwch ar wefan Teachers' Pensions.